Fe welwch yma gasgliad go dda o luniau a dynnwyd yn ystod y blynyddoedd, sawl un ohonynt pan oeddem ar deithiau tramor a nifer go dda yn y bumed Noson Lawen ar hugain a gynhaliwyd yn y Mart ym Mryncir, lleoliad unigryw i gynnal cymaint o nosweithiau. Wnawn ni ddim ymddiheuro trwy ddweud bod Bryn Terfel, John Eifion a Rhys Meirion yn feibion i aelodau a chyn-aelodau o’r Côr. Y maen nhw yn amlwg yn y lluniau.
![]() |
Os am weld mwy o luniau neu gael mwy o wybodaeth am y Noson Lawen arbennig yn Y Mart, lawrlwythwch y rhaglen. |
Medrwch hefyd lawrlwytho rhaglen cyngerdd dathlu 40ain oed y Côr trwy glicio yma. |