Croeso cynnes iawn i chi wrth i chi ymweld â Gwefan Côr Meibion Dwyfor.
Côr o bron i 30 o leisiau ydym ar hyn o bryd a daw’r aelodau o bob cwr o Eifionydd a rhai o Arfon a Meirionnydd.
Cynhaliwn ein hymarferion rhwng 8 o’r gloch a hanner awr wedi naw ar nosweithiau Mercher a hynny yng Nghapel Y Traeth, Cricieth.