Aelodau’r côr i ymweld â thudalen fewnrwyd breifat y côr am fanylion pellach
Ar hyn o bryd yr ydym wrthi’n trefnu Noson Gymdeithasol o sgwrsio a hel atgofion i’r aelodau gan wahodd cyn-arweinyddion a chyfeilyddion a rhai cyn-aelodau a ysgwyddodd gyfrifoldebau yn y Côr.
Ond yn ogystal mae’r gwahoddiad yn agored i’n holl gyn-aelodau a ddymuna ddod i Fwyty Dylan’s yng Nghricieth, nos Sadwrn 5 Ebrill. Pris y bwffe fydd £18.50 y pen, ac os am ddod atom gofynnwn i chi gysylltu efo’n Trysorydd, Philip George (01766 523221).
Edrychwn ymlaen i weld pawb ond ewch ati i gysylltu gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd yna.