
Ein cyngerdd mawr 50!
Cyngerdd Dathlu 50 a gynhelir am 7.30 yh nos Sadwrn 28 Mehefin yng Nghapel y Traeth, Cricieth. Artistiaid y noson fydd Syr Bryn Terfel, Angharad Lyddon (mezzo soprano), Caradog Williams (cyfeilydd), Côr BuAn ac wrth gwrs Meibion Dwyfor. Fe arweinir y noson gan Philip George.
Rhagwelwn y bydd yna gryn alw am docynnau (£25 yr un) ar gyfer y cyngerdd ac felly dyma nodi’r drefn o’u dosbarthu / gwerthu:
- Rhoddir cyfle i gyn-arweinyddion, cyn-gyfeilyddion a chyn-aelodau brynu hyd at ddau docyn yr un drwy gysylltu efo’n Trysorydd Philip George (01766 523221). Bydd y cyfle hwn ar gael hyd at 20 Ebrill 2025. Byddwn yn gofyn am arian y tocynnau gan bawb erbyn y dyddiad yma.
- Rhwng y tocynnau a ddosberthir i aelodau’r Côr ac i aelodau Côr BuAn yn ogystal â’r hyn a nodir uchod rhagwelwn na fydd gennym gyflenwad mawr o docynnau i’w gwerthu’n agored. Fodd bynnag, bwriadwn wneud hynny rhwng 10 ac 11 o’r gloch, dydd Sadwrn 10 Mai yn Festri Capel y Traeth. Ni werthir mwy na 2 docyn i unrhyw unigolyn a gofynnir i bawb dalu am eu tocynnau gydag arian parod. Fydd yna ddim gostyngiadau i blant a phensiynwyr a fydd dim amdani ond gweithredu yn unol â’r egwyddor ‘cyntaf i’r felin’.
Falle bod hyn i gyd yn swnio’n bendant ac ychydig yn gaeth ond gobeithiwn fod y wybodaeth yn glir a diamwys ac yn bwysicach na dim yn deg.
~~~~~~~~~~
Our big 50 convert!
Our 50 Celebration Concert which will be held at 7.30 pm on Saturday 28 June in Capel y Traeth, Cricieth. The artists of the evening will be Syr Bryn Terfel, Angharad Lyddon (mezzo soprano), Caradog Williams (accompanist), Côr BuAn and of course Meibion Dwyfor. The evening will be led by Philip George.
We anticipate that there will be considerable demand for tickets (£25 each) for the concert and so here is the order of distribution / sale:
- Former choir musical directors, former accompanists and former members will be given the opportunity to buy up to two tickets each by contacting our Treasurer Philip George (01766 523221). This opportunity will be available until 20 April 2025. We will ask everyone for the money for the tickets by this date.
- Between the tickets distributed to the Choir and to Côr BuAn members as well as what is stated above we anticipate that we will not have a large supply of tickets to sell openly. However, we intend to do so between 10 and 11 o'clock, Saturday 10 May in the Vestry of Capel y Traeth. No more than 2 tickets will be sold to any individual and everyone is asked to pay for their tickets with cash. There will be no discounts for children and pensioners and there will be nothing but action in accordance with the 'first come, first served' principle.
All this may sound definite and a little strict but we hope that the information is clear and unambiguous and most importantly fair.