Fe geisiwn ymateb yn gadarnhaol i’r mwyafrif o’r galwadau a dderbyniwn unai i gynnal nosweithiau cyfan neu i gymryd rhan mewn cyngerdd neu noson lawen. Pan fyddwn yn cynnal noson gyfan fe ofalwn am arwain y noson yn hwyliog a chyflwynwn raglen amrywiol yn cynnwys eitemau gan unigolion o’r Côr. Os daw cais neilltuol yn gofyn i ni drefnu i unawdydd arbennig ddod efo ni fe fyddwn bob amser yn barod i drafod hynny. Ar sail ein profiad dros y blynyddoedd mae’r math yna o drefniant wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Yr ydym yn hen gyfarwydd â diddanu cynulleidfaoedd gwahanol gymdeithasau yn lleol, yn y Gogledd a’r Canolbarth a dros y ffin yn Lloegr. Fel arfer daw’r galwadau hynny gan gymdeithasau Cymraeg neu fudiadau, yn enwedig felly i godi arian at achosion da ac elusennau.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yr ydym wedi canu mewn sawl priodas a dathliadau teuluol gan drafod yr union raglen ymlaen llaw er mwyn medru ymateb yn llawn i’r ceisiadau a dderbyniwn. Mae’r un peth yn wir am wahanol achlysuron megis ffeiriau Haf a Gaeaf / Nadolig neu wyliau.