Sefydlwyd Côr Meibion Dwyfor yn 1975 fel Parti Cerdd Dant ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor, a hynny o dan arweiniad D. G. Jones (Selyf), Garn Dolbenmaen, cyn i Gerallt, ei fab hynaf, ac yna Alun Llwyd, ei fab ieuengaf afael yn yr awenau yn eu tro. I’w dilyn hwythau daeth John Eifion o Hendre Cennin i arwain, gan droi’r parti yn gôr, cyn iddo yntau gael ei ddilyn gan Buddug Roberts.
Bu’r Côr yn llwyddiannus yn Yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Wyl Cerdd Dant ar ganu gwerin, ac yn cystadlu’n gyson ar gerdd dant dros y blynyddoedd. Bellach mae’r Côr yn cystadlu yng nghystadlaethau’r corau meibion yn ogystal.
Bu’n gefnogol iawn i eisteddfodau a chyngherddau lleol ar hyd y blynyddoedd. Mae wedi teithio i Iwerddon, Yr Alban, Ffrainc a’r Eidal ac wedi diddori cynulleidfaoedd led-led Cymru ac yn Lloegr.
Fel y nodwyd, Cyfarwyddwr Cerdd y Côr yw Buddug Roberts, yn enedigol o Lanllyfni ond bellach wedi cartrefu efo’i theulu yn Ffrwd-cae-du ger Dinas. Ar ôl cyfnodau llwyddiannus fel athrawes, Dirprwy Bennaeth, ac am ddwy flynedd yn athrawes ymgynghorol Cerdd i ysgolion cynradd ac uwchradd Môn a Gwynedd, mae hi ers nifer o flynyddoedd bellach yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Gelli, Caernarfon,
Y gyfeilyddes yw Alison Edwards, yn wreiddiol o Lanberis ond bellach wedi ymgartrefu yn Rhostryfan. Aeth hithau, fel Buddug, i’r byd Addysg i weithio gan dreulio cyfnod yn Ysgol Gymuned Pentraeth, yna’n Swyddog Addysg ym Mhlas Tan-y-bwlch, Maentwrog, cyn symud i’w swydd bresennol fel athrawes yn Ysgol Gynradd Porthaethwy.